Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 7
Mawrth 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2023-24
(30 munud)
NDM8215 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2023-24 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt; ac
c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.
4 Dadl: Cyllideb Derfynol 2023-24
(60 munud)
NDM8213 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Prif Weinidog ar 28 Chwefror 2023.
5 Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2023-24
(60 munud)
NDM8214 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2023-24 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2023.
6 Cyfnod pleidleisio
7 Dadl: Cyfnod 3 y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
(180 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG): ymgyrraedd at y nodau llesiant
45
2. CPG: cyfarfodydd a chadeirio
13, 16, 17, 18, 21, 23, 24, 25, 26, 28, 29, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38
3. CPG: cynrychiolwyr gweithwyr a chynrychiolwyr cyflogwyr
14, 15, 19, 20, 22, 39, 40, 42
4. Enwebiadau i’r CPG gan Wales TUC Cymru
2, 27
5. Ymlyniad gwleidyddol
30, 41
6. Is-grwpiau’r CPG
3
7. Dyletswydd partneriaeth gymdeithasol
43
8. Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol
4, 1
9. Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol
5, 6, 12
10. Adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol
7, 8, 9, 44, 46
11. Cofrestr gontractau
10, 11
Dogfennau
Ategol
Bil
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), fel
y’i diwygiwyd yng nghyfnod 2
Memorandwm
Esboniadol, wedi’i ddiwygio ar ôl Cyfnod 2
Rhestr o welliannau wedi’u didoli
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 8 Mawrth 2023